Rhif y ddeiseb: P-05-900

Teitl y ddeiseb: Ymchwilio i'r ffordd y mae rhieni'n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu'r ffordd y mae rhieni a theuluoedd, yn enwedig y rheini sydd â phlant anabl, yn cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y GIG, ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mae teuluoedd yn cael eu bygwth ar gam a'u trin yn wael gan weithwyr proffesiynol fel meddygon, nyrsys, y gwasanaethau cymdeithasol a staff mewn ysgolion. Mae’n rhaid i hyn ddod i ben.

 


1.        Y cefndir

1.1.            Cymorth i rieni

Yn ogystal â chanolbwyntio ar sut mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau a allai fod yn berthnasol i'r ddeiseb o ran rhieni. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

§  Cymorth i rieni

§  Ymgysylltu a chymorth wrth rianta: canllawiau i ddarparwyr.

 

1.2.          Addysg ac ysgolion

O ran canllawiau a pholisi, mae ystod o gyfeiriadau at rieni, yn dibynnu ar yr agwedd ar addysg sy'n cael ei hystyried, er enghraifft:

 

§  Anghenion addysgol arbennig - canllawiau ar gyfer gofalwyr a rhieni;

§  Taflen ffeithiau am anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr.

 

Mae Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a chyhoeddi gweithdrefnau o'r fath.  Gall cyrff llywodraethu roi gweithdrefn gwyno o’u dewis ar waith ond mae Llywodraeth Cymru yn argymell eu bod yn mabwysiadu’r weithdrefn gwyno enghreifftiol a nodwyd yn eu canllawiau yn 2012, Gweithdrefnau Cwyno ar gyfer Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

 

 

1.3.          Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Daeth  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014  i rym ym mis Ebrill 2016. Ei nod yw gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu a’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. O ganlyniad, dylai pobl gael mwy o lais yn y gofal a’r gefnogaeth a gânt. Mae’r Ddeddf yn gosod nifer o ddyletswyddau ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt weithio i hyrwyddo llesiant y rhai sydd angen gofal a chefnogaeth , neu ofalwyr sydd angen cymorth. Nod y Ddeddf oedd newid y sector gwasanaethau Cymdeithasol fel bod:

 

§  Pobl â mwy o reolaeth dros ba gymorth y maen nhw'n ei gael, a’u bod yn cael gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth fel partner cyfartal;

§  Pobl yn cael asesiad o'u hanghenion gofal a chymorth sy'n edrych ar gapasiti, adnoddau a'r canlyniadau y mae angen i bobl eu sicrhau, ac wedyn nodi'r ffordd orau i’w cefnogi er mwyn eu cyflawni;

§  Gofalwyr yn cael yr un hawl i gael asesiad ar gyfer cymorth â'r bobl hynny y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw;

§  Mynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ar gael i bawb;

§  Pwerau i ddiogelu pobl yn gryfach;

§  Dull ataliol yn cael ei gymryd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth; a

§  Awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dod ynghyd mewn partneriaethau statudol newydd i ysgogi integreiddio, arloesi a newid gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen sy'n egluro elfennau hanfodol y Ddeddf. Bydd gan bob awdurdod lleol ei gweithdrefn gwyno ei hun o ran gwasanaethau cymdeithasol a dylai manylion am hyn fod ar eu gwefannau unigol.

 

1.4.          GIG Cymru

Mae Tudalen we GIG Cymru yn cyfeirio at 'ofal sy'n canolbwyntio ar y claf' ac mae’n nodi:

 

Gall cydgynhyrchu helpu i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n rhoi blaenoriaeth i wneud cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn ganolog i bob penderfyniad a chynllun sy’n ymwneud â gofal iechyd.

 

Mae hefyd yn cyfeirio at safonau ar gyfer gwasanaethau iechyd Cymru - canllawiau atodol. Mae gwybodaeth hefyd am atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru  ac am 'weithio i wella'.

 

1.5.          Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus wedi’u cynnwys dan 'y ddyletswydd gyffredinol' o dan ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010.  Nod y ddyletswydd gyffredinol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a chysylltiadau da yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.  Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i:

 

§  ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

§  datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno, a

§  meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a rhai nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.

Cyhoeddwyd Canllawiau i awdurdodau cyhoeddus ar weithredu eu dyletswyddau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2014.

 

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn nodi dyletswyddau penodol a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2011.  Mae hyn yn cynnwys Rheoliad 10 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod wneud unrhyw drefniadau y mae'n eu hystyried yn briodol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith ei weithwyr o'r ddyletswydd gyffredinol ac o'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn. Dylai awdurdod hefyd nodi unrhyw anghenion hyfforddi sydd gan ei weithwyr mewn perthynas â'r dyletswyddau hynny, a mynd i'r afael â hwy.  Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgysylltu â phobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus.

 

1.6.          Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae canllawiau ar sut i gwyno am gorff cyhoeddus ar gael ar wefan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn yn nodi y bydd yr Ombwdsmon:

 

§  Fel arfer yn disgwyl i unigolyn, yn gyntaf, fod wedi cwyno i’r corff cyhoeddus a rhoi cyfle iddo ymateb i’r gŵyn.  Mae eithriadau os bydd yr Ombwdsmon yn ystyried bod eich cwyn yn destun brys neilltuol;

§  Yn methu ag ymchwilio i’r gŵyn os oes hawl gyfreithiol i apelio neu hawl i fynd â’r mater i’r llys;

§  Fel arfer yn disgwyl i gwynion gael eu cyflwyno o fewn 12 mis ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o’r broblem. Fodd bynnag, os yw amser eisoes wedi'i dreulio'n cwyno’n uniongyrchol i’r corff dan sylw, bydd yn ystyried hynny.

 

Mae'r canllawiau'n awgrymu y dylid trafod cwynion posibl â'r Tîm Cyngor ar Gwynion ar 0300 790 0203 a all roi cyngor a yw'r mater yn rhywbeth y gall yr Ombwdsmon ei ystyried a'r ffordd orau ymlaen.

Gellir gwneud cwynion ar-lein, neu ddefnyddio ffurflen oddi ar wefan yr Ombwdsmon. Os yw'r Ombwdsmon yn credu bod y gŵyn yn un y gall ei hystyried ac os yw'n credu y bu methiant ar ran y corff cyhoeddus, bydd yn ystyried a yw'n bosibl datrys y mater yn anffurfiol.  Os nad felly, ac os yw'n ymddangos ei bod yn bosibl y bu methiant difrifol ar ran y corff cyhoeddus, bydd yn dechrau ymchwiliad ffurfiol.

 

1.7.          Comisiynydd Plant Cymru

Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn darparu gwaith achos a chymorth eiriolaeth am ddim i blant a theuluoedd. Mewn rhai amgylchiadau byddant yn cymryd achos plant unigol a gallant gysylltu â phartïon perthnasol ar eu rhan. Mae’r wefan yn datgan:

 

Mae ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn gyfrinachol ac ar gael am ddim. Mae yno i roi cyngor a chefnogaeth os bydd plant, pobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

 

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i'r ddeiseb ar 13 Awst 2019, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud:

 

The Welsh Government is committed to ensuring equality for people with disabilities and their families. We have a wealth of legislation and guidance in place to ensure disabled people and their families are supported. Following consultation, we are finalising the Welsh Government’s new Framework – ‘Action on Disability: The Right to Independent Living’, which will be published later this summer. One of the aims is to promote equality of opportunity and support disabled people to more easily and readily access resources and mainstream services.

 

All public bodies have a complaints procedure to follow should individuals be unhappy with the services they have received or the way they have been treated. Should they submit a complaint and be unhappy with the outcome then they could ask the Public Services Ombudsman for Wales to investigate.

 

Cyhoeddwyd Gweithredu ar Anabledd: Fframwaith yr Hawl i Fyw'n Annibynnol ym mis Medi 2019.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.